Unique Chapel Conversion in Llanystumdwy | Capel-Bach
This community-run self catering chapel conversion provides an unique accommodation for up to 6 people in Llanystumdwy, a beautiful and friendly village in the heart of Eifionydd, and a stone’s throw away from the Eryri (Snowdonia) National Park here in North Wales.
The property was recently purchased by Menter y Plu, a community enterprise in Llanystumdwy who also owns and runs the local pub, Tafarn y Plu. Be sure to pop by during your stay for a warm welcome and to find out more about this wonderful community, where over 70% of the population speaks Cymraeg.
I like to think that one of the advantages of a self catering holiday over more traditional hotel breaks is that you get the opportunity to stay somewhere that’s a bit different. Quirky Capel Bach certainly doesn’t disappoint on that front. The conversion of this chapel has obviously been a labour of love. Features like the huge gymnasium doors that shield the kitchen can’t be found in a hardware store but hunted out, discovered and restored. It would have been easier to rip everything out perhaps and start again but original features like the pulpit and spindles have been retained and woven into the fabric of the new layout.
The high vaulted ceilings of the lounge give this space a sense of grandeur and history. As described, some huge and lovingly restored gymnasium doors subdivide the kitchen diner from the lounge. Their size and design ensuring the sense of space and light is maintained. A dishwasher, electric cooker and hob, microwave plus all the essentials are included. A washing machine and tumble dryer are located in a separate external building.
A door leads off the living room to a double bedroom, handily situated on the ground floor. The family bathroom has a corner bath with shower over and the usual washbasin and wc facilities.
From behind the pulpit in this unique self catering chapel conversion, two staircases ascend to the left and the right to two more, curtained off, double bedrooms. So a maximum of 6 people can be accommodated. The larger area on the left has additional seating in a more private space for relaxing perhaps.
***Mae'r capel hunanarlwyo hwn, sy'n cael ei redeg gan y gymuned, yn darparu llety unigryw i hyd at 6 o bobl yn Llanystumdwy, pentref hardd a chyfeillgar yng nghanol bro Eifionydd, a thafliad carreg i ffwrdd o Barc Cenedlaethol Eryri.
Prynwyd yr eiddo yn ddiweddar gan Fenter y Plu, menter gymunedol yn Llanystumdwy sydd hefyd yn berchen ar y dafarn leol, Tafarn y Plu. Gwnewch yn siwr eich bod yn galw heibio yn ystod eich arhosiad i gael croeso cynnes ac i ddarganfod mwy am y gymuned arbennig hon.
Rwy’n hoffi meddwl mai un o fanteision gwyliau hunanarlwyo dros wyliau gwesty mwy traddodiadol yw eich bod yn cael cyfle i aros yn rhywle sydd ychydig yn wahanol. Yn sicr, nid yw Capel Bach yn siomi yn hynny o beth. Mae trosi'r capel hwn yn amlwg wedi bod yn llafur cariad. Ni ellir dod o hyd i nodweddion fel drysau enfawr y gampfa sy'n cysgodi'r gegin mewn siop stryd fawr, ond yn hytrach rhaid oedd chwilota’n fanwl amdanynt a’u hadfer yn ofalus. Mae nodweddion gwreiddiol fel y pulpud a'r spindles wedi'u cadw a'u plethu i wead y cynllun newydd.
Mae nenfydau cromennog uchel y lolfa yn rhoi ymdeimlad o fawredd a hanes i'r gofod hwn. Fel y disgrifiwyd, mae drysau campfa enfawr sydd wedi'u hadfer yn gariadus yn gwahanu’r gegin o'r lolfa. Mae yma beiriant golchi llestri, popty a hob trydan, microdon a holl hanfodion arferol pob cegin da. Mae yna hefyd beiriant golchi a sychwr dillad mewn adeilad allanol.
Mae drws yn arwain oddi ar yr ystafell fyw i ystafell wely ddwbl, wedi'i lleoli'n hwylus ar y llawr gwaelod. Mae gan ystafell ymolchi y teulu faddon cornel gyda chawod drosto, yn ogystal â thoiled a sinc ymolchi.
O du ôl i'r pulpud, mae dau risiau'n esgyn i'r chwith a'r dde i ddwy ystafell wely ddwbl arall. Felly gellir lletya uchafswm o 6 o bobl yng Nghapel Bach.