Home | Inspirations | Diolch gan Dioni

Diolch gan Dioni

Published on 17 Dec 2025 by Amy Greenwood

Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, hoffem ddweud diolch o galon i chi am ddewis aros gyda Dioni. P’un a oeddech yma am egwyl hamddenol, antur yn y mynyddoedd neu i archwilio arfordir Cymru, rydym yn ddiolchgar iawn eich bod wedi dewis treulio’ch gwyliau gyda ni.

Rydym yn falch iawn o gynrychioli casgliad cynyddol o eiddo gwyliau ar draws Gogledd Cymru, Eryri, Penfro a Ceredigion, ac o groesawu gwesteion i rai o lefydd harddaf Cymru.

Mae ein tîm lleol yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich arhosiad mor llyfn a phleserus â phosibl, ac mae’n golygu lot i ni fod cymaint ohonoch yn dychwelyd dro ar ôl tro ac yn argymell Dioni i ffrindiau a theulu.

Wrth edrych ymlaen at 2026, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu’n ôl. Mae llawer o westeion yn dewis archebu’n gynnar ar gyfer dyddiadau poblogaidd, felly os ydych eisoes yn breuddwydio am eich taith nesaf i Gymru, cadwch lygad ar ein gwefan.

Oddi wrth bawb yn Dioni, dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda iawn i chi, a gobeithiwn eich croesawu’n ôl yn fuan.

Cofion cynnes,
Tîm Dioni 🎄

(To read this post in English click here)