Gwneud Eich Eiddo’n Gyfeillgar i Gŵn
Published on 18 Apr 2025 by Amy GreenwoodOs ydych chi’n derbyn cŵn, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael croeso mawr gennych. Dylai ‘cyfeillgar i gŵn’ olygu yn union hynny: mae angen i westeion wybod bod eu hanifeiliaid anwes nid yn unig yn cael eu caniatáu i mewn i’ch eiddo, ond yn cael croeso go iawn.
Mae ymagwedd tuag at gŵn sydd wedi’i hystyried yn ofalus yn gallu gosod eich llety gwyliau ar wahân. Mae hefyd yn gallu gwneud i bobl fwcio dro ar ôl tro, ac yn denu adolygiadau ac argymhellion ffafriol.

Yr Hanfodion:
Ystyriwch roi pecyn croeso i gi bach yn cynnwys powlen, danteithion, a bagiau gwastraff. Dylech gynnwys unrhyw fanylion am filfeddygon lleol rhag ofn y bydd argyfwng.
Creu Man Diogel:
Dylai cynnig man awyr agored diogel fod yn brif flaenoriaeth, felly gwnewch yn siŵr bod gatiau a ffensys mewn cyflwr da. Y tu mewn i’ch eiddo, dylech greu man cysgu penodol drwy osod gwely cyfforddus i gi yng nghornel y gegin, neu ger rheiddiadur mewn ystafell ochr.
Gosod Rheolau Clir:
Mae’n bwysig gosod rheolau. Eglurwch p’un a allai cŵn fynd i fyny’r grisiau, neu ar ddodrefn, a ddylen nhw fod ar dennyn y tu allan, ac unrhyw reolau allweddol eraill. Mae cadw rheolau’n glir ond yn rhesymol yn helpu i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.
Meddwl yn Ymarferol:
Meddyliwch yn ymarferol. Dewiswch loriau caled sy’n fwy gwydn ac yn haws i’w glanhau na charpedi; gwnewch yn siŵr bod rygiau’n gallu cael eu golchi, a rhowch garthenni neu orchuddion ar ddodrefn i’w hamddiffyn. Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Os nad oes gan gŵn hawl i fynd i fyny’r grisiau, ystyriwch osod giât grisiau er hwylustod. Os yn bosib, ychwanegwch sinc yn y portsh cefn neu’r ystafell esgidiau, a rhowch ychydig o dywelion i gŵn er mwyn sychu unrhyw bawennau mwdlyd.
Tynnu sylw at Weithgareddau Cyfeillgar i Gŵn:
Mae gwesteion yn hoff iawn o awgrymiadau personol. Rhowch restr o deithiau cerdded lleol, tafarndai cyfeillgar i gŵn, traethau, ac atyniadau. Mae’r cyffyrddiadau bach hyn yn dangos eich bod yn malio, a bydd y gwesteion sydd ddim yn gyfarwydd â’r ardal yn gwerthfawrogi hynny.
Hwyluso’r Gwaith Glanhau:
Mae hyd yn oed cŵn sy’n bihafio yn colli blew ac yn dod â baw i mewn. Buddsoddwch mewn sugnwr llwch da a rhowch gyflenwad o nwyddau glanhau (sy’n gyfeillgar i gŵn) i westeion eu defnyddio.
Gobeithio bod yr awgrymiadau hyn o fudd i chi! Byddwn yn ôl mewn mis gyda rhagor o ffyrdd y gallwch wneud y mwyaf o’ch bwthyn gwyliau.