Llety Ymwelwyr yng Nghymru – Beth i’w Ddisgwyl yn 2026
Published on 12 Mar 2026 by Amy GreenwoodEfallai eich bod wedi gweld mwy o drafodaeth am gofrestru, trwyddedu, ac efallai ardoll ymwelwyr (a elwir yn aml yn dreth twristiaeth) ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru. Mae’r newidiadau hyn yn symud ymlaen yn 2026, felly roeddem am rannu diweddariad clir ar yr hyn sy’n digwydd, beth allai ei olygu i chi, a’r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi.
Y newyddion da yw na ddylai’r newidiadau hyn deimlo’n feichus i’r rhan fwyaf o berchnogion Dioni. Mae’r bythynnod yr ydym yn gweithio gyda nhw eisoes yn cael eu rheoli’n broffesiynol ac mae’n debygol y byddant yn bodloni’r gofynion sylfaenol heb lawer (os o gwbl) o waith ychwanegol. Ac os ydych chi’n ansicr am unrhyw beth, mae tîm Dioni yma i helpu.
1) Mae cofrestr genedlaethol yn dod (yn orfodol ledled Cymru)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno cofrestr genedlaethol orfodol o lety i ymwelwyr. Nod hyn yw rhoi darlun cliriach o’r sector a chefnogi polisi twristiaeth yn y dyfodol.
Bydd angen i chi gofrestru os ydych yn darparu llety dros nos â thâl yng Nghymru, lle mae archebion yn cynnwys arhosiadau o 31 noson neu lai. Gallai’r gweminar ar-lein rhad ac am ddim hwn a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru fod o gymorth os hoffech wybod mwy.
Mae canllawiau’r Llywodraeth yn awgrymu y bydd y cynllun cofrestru’n agor yn hwyr yn 2026. Byddwn mewn cysylltiad pan fydd y system yn mynd yn fyw i’ch tywys drwy’r broses.
2) Gallai ardoll ymwelwyr ddilyn (dim ond os bydd cynghorau’n dewis ei chyflwyno)
Mae ardoll ymwelwyr (treth twristiaeth) bellach yn bosibl yng Nghymru, ond nid yw’n awtomatig. Mae gan bob Awdurdod Lleol y pŵer i benderfynu a ddylid ei chyflwyno yn eu hardal, ac i ddiffinio cyfraddau ac unrhyw eithriadau.
Os caiff ei fabwysiadu’n lleol, byddai’r ardoll fel arfer yn cael ei thalu gan eich gwesteion fel rhan o’u harhosiad. Byddai Dioni yn casglu’r taliad ar eich rhan, gan ei drosglwyddo i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn casglu ac yn rheoli’r ardoll ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Bydd yr arian a godir gan yr ardoll yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau twristiaeth lleol, gan gynnwys toiledau, llwybrau troed, traethau, a chanolfannau ymwelwyr.
3) Mae cynllun trwyddedu’n cael ei gynllunio (mae manylion yn dal i gael eu datblygu)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Mesur yn y Senedd fyddai’n creu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.
Pwrpas trwyddedu yw gosod safonau sylfaenol clir o ran diogelwch a pherthnasedd, fel y gall gwesteion archebu gyda hyder a bod y sector yn gweithredu yn unol â disgwyliadau cyson.
Ar gyfer llety sy’n dod o fewn cwmpas y cynllun newydd, disgwylir i’r safonau gynnwys:
- Diogelwch tân: Cynnal asesiad risg tân, gweithredu ar ei ganfyddiadau, a sicrhau o leiaf un larwm mwg sy’n gweithio ac sydd wedi’i gysylltu ar bob llawr.
- Diogelwch trydanol: Cael adroddiad amodau gosod trydanol (EICR) dilys gan berson cymwys o leiaf bob pum mlynedd (neu’n gynt os nodir hynny yn yr adroddiad), a chwblhau a chofnodi unrhyw waith unioni.
- Diogelwch nwy: Cadw cofnod diogelwch nwy cyfredol sy’n cynnwys yr holl beiriannau nwy, gwaith pibellau a ffliwiau sy’n gwasanaethu’r eiddo, yn unol â dyletswyddau diogelwch nwy presennol y landlord.
- Carbon monocsid: Gosod larwm carbon monocsid sy’n gweithio ym mhob ystafell (gan gynnwys cynteddau a landinau) sy’n cynnwys peiriant nwy, olew neu danwydd solet.
- Yswiriant: Dal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n cynnwys hawliadau trydydd parti sy’n deillio o ddarparu llety i ymwelwyr, gyda gofynion cwmpas mwy manwl i’w nodi mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.
Os caiff ei wneud yn dda, dylai’r newidiadau hyn gryfhau enw da Cymru fel cyrchfan o safon drwy osod safonau sylfaenol cliriach a chefnogi bythynnod gwyliau proffesiynol, sy’n cael eu rhedeg yn dda.
Bydd y manylion am amodau trwydded, arolygiadau, ffioedd ac amseriadau yn cael eu cwblhau drwy broses y Senedd, a byddwn yn rhannu rhagor o ddiweddariadau wrth iddynt ddod ar gael.
Beth all perchnogion bythynnod ei wneud nawr (camau ymarferol syml)
Nid yw hon yn ‘rhestr banig’ – meddyliwch amdani fel rhestr wirio daclus. Bydd y rhan fwyaf o berchnogion eisoes â’r rhan fwyaf o hyn ar waith.
Cadwch eich dogfennau allweddol wedi’u trefnu
Mae ffolder syml (papur neu ddigidol) yn syniad gwych. Mae eitemau defnyddiol yn cynnwys:
- Dogfennau diogelwch tân (er enghraifft: asesiad risg tân, gwiriadau larymau)
- Tystysgrif diogelwch nwy (os oes gennych nwy)
- Cofnodion diogelwch trydanol (er enghraifft: EICR lle bo’n berthnasol)
- Cofnodion Profi Offer Cludadwy os ydych chi’n gwneud profion PAT
- Tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Ymwybyddiaeth risg Legionella (lle bo’n berthnasol)
- Llawlyfr gwesteion (gan gynnwys beth i’w wneud mewn argyfwng)
Nodyn cyflym ar y rheol 182
Mae’r newidiadau arfaethedig hyn ar wahân i reolau dosbarthu treth 182 diwrnod. Mae trwyddedu’n ymwneud â safonau a sicrwydd, tra bod y trothwy 182 yn ymwneud ag a yw eiddo’n dod o dan drethi busnes neu dreth gyngor.
Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae tîm Dioni wedi bod yn arwain yr ymgyrch Rhaid Adolygu 182, gan alw am ddull mwy teg a mwy ymarferol o ymdrin â’r trothwy 182. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth (gan gynnwys templed llythyr dwyieithog i ysgrifennu at eich AS) yma: https://www.dioni.co.uk/182-campaign-2/
Oes anfanteision?
Mae’n deg cydnabod y gallai cofrestru a thrwyddedu olygu rhywfaint o weinyddu ychwanegol, ac fe allai trwyddedu ddod â ffioedd neu gostau cydymffurfio newydd i rai busnesau yn dibynnu ar sut y caiff ei weithredu.
Fodd bynnag, ar gyfer bythynnod sy’n cael eu rhedeg yn dda, nid yw’r bwriad i greu biwrocratiaeth ddiangen – dylai ffurfioli’r safonau da y mae llawer o berchnogion eisoes yn eu bodloni. Dros amser, gallai hefyd helpu i annog gweithredwyr llai proffesiynol sy’n torri corneli, gan gefnogi enw da’r sector lletygarwch Cymreig yn gyffredinol.
Rydym yma i helpu
Os hoffech gefnogaeth i baratoi ar gyfer cofrestru neu drwyddedu, cysylltwch â ni. Gall tîm Dioni drafod yr hyn sydd ei angen a’ch helpu i deimlo’n hyderus ac wedi’ch trefnu cyn y newidiadau.
Dolenau defnyddiol:
Cofrestru llety i ymwelwyr: trosolwg | LLYW.CYMRU
Canllawiau gweminar Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer cofrestru llety i ymwelwyr
Ardoll Ymwelwyr: canllawiau i ddarparwyr llety i ymwelwyr | LLWY.CYMRU
Trwyddedu llety i ymwelwyr yng Nghymru
Cylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru
To read Visitor Accommodation in Wales – What to Expect in 2026 in English please click here.