Gwaith y Gwanwyn! Byddwch yn Barod ar gyfer Tymor y Gwesteion
Published on 28 Feb 2025 by Amy GreenwoodParatoi ar gyfer y Tymor
Unwaith y bydd prif dasgau cynnal a chadw’r gaeaf wedi’u cwblhau, dyma’r amser i ganolbwyntio ar y manylion a sicrhau bod eich eiddo’n ffres ac yn barod ar gyfer y tymor prysur o’ch blaen.
Diweddaru’r ffolder croeso:
Adolygwch eich ffolder croeso i sicrhau bod yr holl wybodaeth allweddol yn gyfredol, yn enwedig rhifau cyswllt, codau Wi-Fi neu godau mynediad, a’r cyfarwyddiadau ar gyfer y system wresogi ac offer. Os ydych chi’n cynnwys argymhellion lleol, fel rhifau bwyty neu dacsi, yna gwiriwch ddwywaith a yw’r rhain yn gyfredol.
Dogfennau pwysig:
Mae nawr yn amser da i wirio bod yr holl dystysgrifau a pholisïau perthnasol – megis yswiriant y cartref, asesiadau risg tân, tystysgrifau diogelwch trydan a nwy – yn gyfredol. Rydyn ni hefyd yn argymell eich bod yn gwneud copïau o’r dogfennau pwysig hyn i’w cynnwys yn eich ffolder croeso.
Calendr archebion:
Gwnewch yn siŵr bod eich calendr archebion yn gwbl gyfredol ag unrhyw archebion personol, a chysonwch y calendr â phlatfformau archebu eraill os yw’n berthnasol. Mae’n hanfodol bod yr holl ddyddiadau nad ydyn nhw ar gael yn cael eu clustnodi ymhell ymlaen llaw er mwyn osgoi archebion dwbl a siom i westeion.
Adnewyddu’r dillad gwely:
Gwiriwch yr holl ddillad gwely a newidiwch unrhyw hen garthenni (duvets) a chlustogau os oes angen. Mae gwesteion yn hoffi cael noson dda o gwsg ac mae dillad gwely ffres, cyfforddus yn gwneud byd o wahaniaeth. Yn yr un modd, gwiriwch yr holl dywelion, blancedi a rygiau, a newidiwch unrhyw rai sydd bellach ddim yn y cyflwr gorau.
Glanhau proffesiynol:
Glanhewch eich popty’n drylwyr, ac ystyriwch lanhau carpedi a soffas gan ddefnyddio gwasanaeth proffesiynol i gynnal edrychiad a theimlad o ofal da drwy’r eiddo cyfan.
Hanfodion y gegin:
Adolygwch ac ail-stociwch hanfodion y gegin – meddyliwch am eitemau sylfaenol fel cyllyll a ffyrc, llestri, offer coginio, ac unrhyw eitemau sylfaenol ar gyfer y pantri sy’n cael eu darparu gennych. Mae cegin â digonedd o gyfarpar yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad eich gwesteion.